Rydym yn elusen sy’n cynnig cymorth i unigolion sy’n wynebu achosion sifil a theulu yn unig, er mwyn eich galluogi i gynrychioli eich hunain i’r safon orau bosibl.

Mae ein gwasanaethau’n rhad ac am ddim ac yn cael eu darparu naill ai mewn adeilad llys neu mewn prifysgol. Yn ogystal, mae gennym linell gymorth genedlaethol (03000 810 006), sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:30yb a 3:00yp.

Mae gennym hefyd gwasanaeth ar-lein, sydd ar gael i gefnogi unrhyw un ledled Cymru a Lloegr.
Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol.

Gallant:

  • Egluro sut mae’r llys yn gweithio, helpu i lenwi ffurflenni, trefnu papurau, a thrafod sut i dddatrys anghydfodau heb fynd i’r llys
  • Cynorthwyo gyda chynllunio’r hyn rydych am ei ddweud yn y llys ac, os oes angen, mynychu’r llys i’ch cefnogi
  • Cynnig manylion am wasnaethau eraill a’ch helpu i ddarganfod a allwch derbyn cyngor cyfreithiol am ddim.

Nid ydym yn darparu cyngor cyfreithiol nac yn cynnig cynrychiolaeth gyfreithiol.
Efallai y byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar wefan ‘Advice Now’.
Nid ydym yn cefnogi unigolion gydag achosion troseddol.

Cymorth ar Gael yng Nghanolfan Cyfiawnder

Mae ein gwasanaeth ar gael yng Nghanolfan Cyfiawnder Caernarfon. Cysylltwch â ni drwy e-bostio cardiff@supportthroughcourt.org i drefnu apwyntiad. Rydym hefyd yn croesawu apwyntiadau cerdded i mewn.

Cyfeiriad: Canolfan Cyfiawnder Caernarfon, Ffordd Llanberis, Caernarfon, LL55 2DF.

Dyddiadau agor: 18 Mehefin, 19 Mehefin, 23 a 24 Gorffennaf, 13 a 14 Awst.


Rydym yn cynnig apwyntiadau Cymraeg wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ar ddydd Iau a dydd Gwener yn unig.
Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaeth trwy apwyntiad yn unig. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i cardiff@supportthroughcourt.org.


0292 277 0348


Support Through Court
Cardiff Civil and Family Justice Centre
2 Park Street
Cardiff
South Wales
CF10 1ET


""

Opening hours, address and contact information for all of our locations.

""

Are you a person going to court and do not have a lawyer?

""

We deal with thousands of clients every year. Hear some of their stories.