Please help by writing to your MP – Welsh translation

Annwyl [Enw MP neu Aelod Senedd]

Rydw i yn ysgrifennu fel etholwr ac fel cefnogwr of Cymorth Trwy Lys (Support Through Court). [Ychwanegwch eich cysylltiad i Gymorth Trwy Lys a dweud os yw eich gwasanaeth yn etholaeth nhw, neu of yw ei etholwr yn defnyddio’r gwasanaeth cenedlaethol.]

Gofynnaf am eich cefnogaeth i apelio yn erbyn penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i dynnu cyllid yn ôl o’r elusen Cymorth Trwy’r Llys (Support Through Court). Rydym yn elusen sy’n cefnogi’r rhai nad oes ganddynt y modd ariannol i dalu am gynrychiolaeth gyfreithiol yn y llysoedd Sifil a Theulu.

Mae’r elusen wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf i sicrhau bod pobl na allant gael mynediad at gynrychiolaeth gyfreithiol yn gallu cymryd rhan yn effeithiol mewn achosion llys Sifil a Theulu. Yn y gorffennol cafodd yr elusen gyllid o £300,000 y flwyddyn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddaeth trwy grant Gwella Canlyniadau Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder ond daeth i ben ddiwedd mis Medi 2026. Gwnaeth yr elusen gais am grant Cymorth Cyfreithiol newydd; fodd bynnag, ni wnaethant lwyddo, ac nid oes gennym unrhyw addewid o gyllid gan y llywodraeth yn y dyfodol.

Pe byddai’r elusen Cymorth Trwy’r Llys (Support Through Court) yn diflannu oherwydd diffyg cyllid, ni fydd pobl yn rhoi’r gorau i ddod i’r llys – yn syml byddent yn wynebu’r llys ar eu pennau eu hunain.

Rwyf yn gwybod byddwch wedi pryderi am yr effaith bydd hyn yn cael ar eich etholwr. Pob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn eich etholaeth yn wynebu llys sifil a theulu heb gynrychiolaeth gyfreithiol. Mae niferoedd yn delio efo materion o drais domestig, problemau tai, anableddau, iechyd meddwl drwg, caledi ariannol neu chwalu teulu. Heb gymorth, mae llawer yn ymdrechu i ddeall gweithdrefn y llys, cwblhau Gwaith papur, Dilyn gorchmynion y llys neu gymryd rhan yn effeithiol yn wrandawiadau.

Blwyddyn ddiwethaf gwnaeth ein helusen helpu pobl ar fwy na 51,000 o adegau. Gwnaethom helpu pobl deall y llys yn well, paratoi am wrandawiadau ac ymgysylltu efo’r system cyfiawnder. Nid dim ond yw hyn yn fanteisiol i’ch etholwr ond hefyd y llysoedd, yn lleihau dryswch, gwella parodrwydd a galluogi ymgyfreithwyr heb gynrychiolaeth cymryd rhan mewn ffordd effeithiol.

[Ychwanegwch wybodaeth yma ar yr effaith ar gleientiaid bydd hyn yn cael yn gyffredinol ac o eich profiad personol.]

Mae’r system llysoedd dan bwysau sylweddol gyda nifer fawr o achosion heb eu cwblhau. Mae’r rhai sy’n cynrychioli eu hunain ag ychydig o ddealltwriaeth am brosesau’r llys ac mae hynny’n cynyddu’r pwysau hwnnw ar y llysoedd. Mae Cymorth Trwy’r Llys (Support Through Court) yn lleihau’r pwysau hwnnw trwy gefnogi pobl i wneud eu ceisiadau – gan lywio’u ffordd drwy’r ffurflenni cymhleth sydd eu hangen gan y llys.

Gan gymryd yr effaith ar eich etholwr gofynnir iddoch i ysgrifennu i’r Gweinidog am Lysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol yn annog y parhad o’r cyllid am Gymorth Trwy Lys (Support Through Court).

Ni fydd pobl yn rhoi’r gorau i ddod i’r llys pan fydd ein cymorth yn diflannu. Byddant yn wynebu’r llys ar eu pen eu hunain. 

Yn Gywir

[Enw chi]

[Eich cyfeiriad post gan gynnwys eich cod-post felly bydd eich MP/aelod senedd yn gallu gweld eich fod yn eich etholaeth nhw ac felly mi fyddwn yn ymateb iddoch]