Rydym yn elusen sy’n cynnig cymorth i unigolion sy’n wynebu achosion sifil neu deuluol yn unig, er mwyn eich galluogi i gynrychioli eich hunain i’r safon orau bosibl.

Mae ein gwasanaethau’n rhad ac am ddim ac ar gael naill ai yn y llys neu yn ddigidol. Rydym yn gweithredu ledled Cymru, gan gynnig cymorth wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol Caerdydd, ynghyd â chefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein.

Mae gennym linell gymorth genedlaethol (03000 810 006), sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:30yb a 3:00yp. Mae ein gwasanaeth ar-lein ar gael i unrhyw un yng Nghymru neu Loegr.

Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol.

Gallant:

  • Egluro sut mae’r llys yn gweithio, helpu i lenwi ffurflenni, trefnu papurau, a thrafod sut i ddatrys anghydfodau heb fynd i’r llys
  • Cynorthwyo gyda chynllunio’r hyn rydych am ei ddweud yn y llys ac, os oes angen, bod yn bresennol yn y llys i’ch cefnogi
  • Cynnig manylion am wasanaethau eraill a’ch helpu i ddarganfod a allwch dderbyn cyngor cyfreithiol am ddim.

Nid ydym yn darparu cyngor cyfreithiol nac yn cynnig cynrychiolaeth gyfreithiol.

Efallai y byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar wefan ‘Advice Now’.

Nid ydym yn cefnogi unigolion gydag achosion troseddol.

Cymorth ar Gael yng Nghanolfan Cyfiawnder

Mae ein gwasanaeth ar gael yng Nghanolfan Cyfiawnder Caernarfon. Cysylltwch â ni drwy e-bostio cardiff@supportthroughcourt.org i drefnu apwyntiad. Rydym hefyd yn croesawu apwyntiadau cerdded i mewn.

Cyfeiriad: Canolfan Cyfiawnder Caernarfon, Ffordd Llanberis, Caernarfon, LL55 2DF.

Dyddiadau agor: 18 Mehefin, 19 Mehefin, 23 a 24 Gorffennaf, 13 a 14 Awst.


Rydym yn cynnig apwyntiadau Cymraeg wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ar ddydd Iau a dydd Gwener yn unig.
Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaeth trwy apwyntiad yn unig. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i cardiff@supportthroughcourt.org.


0292 277 0348


Support Through Court
Cardiff Civil and Family Justice Centre
2 Park Street
Cardiff
South Wales
CF10 1ET


""

Opening hours, address and contact information for all of our locations.

""

Are you a person going to court and do not have a lawyer?

""

We deal with thousands of clients every year. Hear some of their stories.